Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Mae Cylchlythyr Gorffennaf 2026 yn fyw ar wefan newyddion yr ysgol. Dyma flas o'r hyn sydd ynddo:
- Chwaraeon — y Ras Traws Gwlad yn Llangefni, pêl-droed y genethod yn Aberystwyth, y Gala Nofio, yr Ŵyl Fowlio a Tharian Albert Owen.
- Mabolgampau — lluniau'r diwrnod a'r llysoedd buddugol.
- Hwyl yr Haf — ein Diwrnod Hwyl yr Haf efo thema Hawai, a fideo o'r diwrnod.
- Tripiau — Glan-llyn, Llangrannog, Parc Fferm y Foel, Coed y Sipsi, Parc Dŵr y Rhyl, Gelli Gyffwrdd a Sw Môr.
- Hwyl fawr Blwyddyn 6 — ein ffarwél i'r criw hynaf, eu gwobrau a'u fideo.
- Cornel Lles a Pos Bach — syniadau syml at yr haf a phos i'r plant.
Darllenwch y cyfan yma:
Dyma gartref newydd pob llythyr a chylchlythyr bellach — popeth mewn un lle, ar eich ffôn, mewn deg iaith. Dewiswch eich iaith ar frig y dudalen.
Rhwng ein tudalen Facebook, ap Seesaw a'r cylchlythyr yma, cewch wir flas o fywyd Ysgol Llanfairpwll. Dyma'r lle i weld y lluniau diweddaraf, felly ewch draw i gael golwg.
Diolch am eich cefnogaeth drwy'r flwyddyn. Mwynhewch yr haf!
Yr eiddoch yn gywir,
Gwyn Pleming