Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Eleni casglodd Cyfeillion yr Ysgol £5,505.13 at blant yr ysgol. Diolch o galon i bawb a drefnodd, a bobodd, a werthodd ac a brynodd drwy'r flwyddyn.
Talodd yr arian am:
- hwdis Blwyddyn 6
- Hwyl yr Haf
- calendr 2026
- bysiau trip Nadolig
Rhoddodd pob ceiniog rywbeth ychwanegol i'r plant.
Hoffech chi ymuno flwyddyn nesa? Mae croeso i rieni, neiniau a theidiau a ffrindiau'r ysgol. Cysylltwch â swyddfa'r ysgol ac fe rown ni chi mewn cysylltiad â'r Cyfeillion.

Diolch eto,
Gwyn Pleming
Pennaeth