Logo Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Newyddion, cylchlythyrau a llythyrau · News, newsletters and letters
HafanLlythyrau2026-2027 › Medi

Clwb Brecwast: archebu lle

1.9.2026

Annwyl Rieni a Gofalwyr,

Gair byr i egluro sut mae archebu lle yn y Clwb Brecwast.

Dim ond y sesiwn sy'n costio sydd angen ei harchebu. Y sesiwn 8:00 tan 8:25 ydi honno, a byddwch yn ei harchebu a'i thalu ar Bromcom. Nid yw'r sesiwn am ddim o 8:25 ymlaen ar Bromcom o gwbl, ac nid oes angen archebu lle ynddi. Dewch â'ch plentyn i mewn.

Mae Bromcom yn cau'r archebion ddiwrnod cyn y sesiwn. Dyna pam y gwelodd rhai ohonoch chi fod yfory ar gau neu'n llawn yn barod. Rydym yn ceisio newid hyn fel y gallwch archebu unrhyw bryd. Tan hynny, archebwch fwy na diwrnod ymlaen llaw.

Yfory, dydd Mercher 2 Medi, dewch fel arfer. Ni fydd neb yn cael ei droi i ffwrdd. Os bydd eich plentyn yn defnyddio'r sesiwn sy'n costio heb archeb, byddwn yn ychwanegu'r archeb at eich cyfrif ac yn codi'r tâl arferol.

Yn gywir,

Gwyn Pleming