Logo Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Newyddion, cylchlythyrau a llythyrau · News, newsletters and letters
HafanLlythyrau2025-2026 › Gorffennaf

Ap Rhieni Newydd: MyChildAtSchool (MCAS)

13.7.2026

Annwyl Rieni a Gofalwyr,

Yn ystod y dyddiau nesaf byddwch yn derbyn e-bost gan MyChildAtSchool (MCAS), sef ap rhieni Bromcom, yn eich gwahodd i greu eich cyfrif. Peidiwch â'i anwybyddu, os gwelwch yn dda. Os nad ydi'r e-bost wedi cyrraedd erbyn diwedd yr wythnos, edrychwch yn eich ffolder sbam.

Beth sydd angen i chi ei wneud rŵan

Chwiliwch am MyChildAtSchool yn yr App Store neu Google Play, lawrlwythwch yr ap, a chrëwch eich cyfrif. Rhaid defnyddio'r un cyfeiriad e-bost sydd gan yr ysgol ar eich cyfer. Ni fydd cyfeiriad arall yn gweithio.

Rydym yn cau am yr haf ddydd Gwener, 17 Gorffennaf. Os crëwch eich cyfrif yr wythnos hon a tharo ar broblem, gallwn ei datrys cyn cau. Os arhoswch tan y gwyliau, ni fyddwn yn gallu helpu tan fis Medi. Os cewch drafferth, cysylltwch â swyddfa'r ysgol ac fe wnawn ni helpu.

Dyna'r cwbl am rŵan. Does dim byd i'w archebu na'i dalu eto.

Beth fydd yn digwydd ym mis Medi

Bydd Bromcom yn mynd yn fyw ac yn cymryd lle School Gateway. O hynny ymlaen, dyma fydd yn delio â holl gyfathrebu'r ysgol, taliadau, ac archebu lle yng Nghlwb y Gollen. Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn ym mis Medi.

Clwb y Gollen

Dim byd yn newid i'n defnyddwyr rheolaidd. Bydd pawb sy'n defnyddio'r clwb yn gyson yn gallu parhau i wneud hynny, yn union fel o'r blaen.

Yr hyn sy'n newydd ydi y bydd y system yn gadael i unrhyw riant archebu noson ychwanegol pan fydd lle ar gael. Mae gennym leoedd gwag ar rai nosweithiau, ac o fis Medi ymlaen bydd modd i'r defnyddiwr achlysurol fanteisio arnynt drwy'r ap.

Rydym yn ysgol beilot

Mae Cyngor Ynys Môn wedi penderfynu newid darparwr, ac wedi dewis ein hysgol ni yn un o'r ysgolion peilot. Mae manteision i hynny, ond mae hefyd yn golygu efallai na fydd pob rhan o'r system yn berffaith o'r diwrnod cyntaf. Mae'n bosib y bydd y cyfieithiad Cymraeg yn anghyflawn mewn mannau, ac efallai na fydd rhai nodweddion wedi'u haddasu'n llawn ar gyfer ein hysgol ni eto. Rydym yn gweithio efo Bromcom a'r Cyngor i ddatrys y materion hyn.

Diolch am eich amynedd wrth i ni wneud y newid hwn.

Yn gywir,

Gwyn Pleming

Pennaeth