Chwiliwch am yr e-bost
Yr anfonwr ydi MyChildAtSchool, nid yr ysgol nac enw athro. Os nad ydi o yn eich blwch derbyn, edrychwch yn y ffolder sbam neu junk.
Cliciwch y ddolen a gosod cyfrinair
Mae'r ddolen yn dod i ben ar ôl ychydig oriau. Os ydi hi wedi darfod, ffoniwch y swyddfa ac fe anfonwn un newydd.
Lawrlwythwch yr ap
Chwiliwch am MyChildAtSchool yn yr App Store neu Google Play. Eicon coch. Peidiwch â chwilio am Bromcom, ddaw o ddim i'r golwg.
Mewngofnodwch
Defnyddiwch yr union gyfeiriad e-bost sydd gan yr ysgol ar eich cyfer a'r cyfrinair newydd. Ni fydd cyfeiriad arall yn gweithio.
Trowch hysbysiadau ymlaen
Caniatewch hysbysiadau pan fydd y ffôn yn gofyn. Dyma sut y byddwch yn clywed gennym ni o hyn ymlaen.
Os nad ydi o'n gweithio
- Dilewch yr ap, gwnewch yn siŵr fod meddalwedd eich ffôn yn gyfredol, ac ail-osodwch yr ap.
- Os ydach chi'n copïo a gludo'r e-bost neu'r cyfrinair, gwyliwch am fwlch gwag ar y dechrau neu'r diwedd.
- Os oes gynnoch chi fwy nag un plentyn yn yr ysgol a dim ond un sy'n ymddangos, gadewch i ni wybod. Mater i'r ysgol ei drwsio ydi hwnnw.
Os ydach chi'n dal i gael trafferth, cysylltwch â swyddfa'r ysgol ac fe wnawn ni helpu.