Logo Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Newyddion, cylchlythyrau a llythyrau · News, newsletters and letters
HafanLlythyrau2026-2027 › Medi

Clwb y Gollen: archebu tymor yr hydref 2026

22.8.2026

Annwyl Rieni a Gofalwyr,

Mae Clwb y Gollen yn ailddechrau ddydd Mercher 2 Medi. Mae'r ffordd rydych chi'n bwcio yn newid eleni.

Mae'r bwcio ar agor heddiw

Rydych chi'n bwcio ac yn talu drwy MyChildAtSchool. Dydy School Gateway ddim yn cymryd bwcio ar gyfer Clwb y Gollen bellach.

Chwiliwch am "MyChildAtSchool" yn yr App Store neu Google Play. Os nad ydych chi wedi sefydlu eich cyfrif, cysylltwch â'r swyddfa ac fe anfonwn ni eich cod gwahoddiad atoch chi eto. Allwch chi ddim bwcio nes bod eich cyfrif yn fyw.

Bwciwch fesul sesiwn

Bwciwch bob sesiwn cyn i'ch plentyn ddod, a thalwch wrth fwcio. Dydy balansau ddim yn rhedeg ymlaen drwy'r tymor i'w setlo'n nes ymlaen bellach.

Mae'r bwcio'n cau bum diwrnod cyn sesiwn. I ganslo, bydd rhaid gwneud hynny drwy'r app - eto 5 diwrnod cyn y noson. Rydyn ni'n staffio'r clwb yn ôl y niferoedd sydd wedi bwcio, felly allwn ni ddim ad-dalu sesiwn sy'n cael ei chanslo ar ôl hynny. Os ydy'ch plentyn yn sâl, rydyn ni'n credydu'r sesiwn yn ôl i'ch cyfrif. Cofrestr yr ysgol ydy ein tystiolaeth ni a dydyn ni ddim yn gofyn am nodyn meddyg.

Y pris

£7 y sesiwn.

Lle mae tri brawd neu chwaer yn dod ar yr un noson, mae un lle am ddim. Os ydy un o'r tri i ffwrdd y noson honno, mae'r ddau arall yn talu'n llawn a dydyn ni ddim yn credydu'r sesiwn a gollwyd.

Ar agor i bob teulu

Dydy llefydd y llynedd ddim yn cario drosodd. Mae pob teulu'n bwcio o'r un rhestr, y cyntaf i'r felin gaiff falu. Os ydy nosweithiau penodol yn bwysig i chi, bwciwch heddiw.

Plant y Meithrin

Nid yw Clwb y Gollen ar agor i'r Meithrin. Mae un eithriad: caiff plentyn Meithrin sydd â brawd neu chwaer hŷn yn yr ysgol yn barod fynychu.

Os mai dyna'ch teulu chi, e-bostiwch y swyddfa efo enwau'r ddau blentyn. Nid yw plant y Meithrin ar ein cofrestr tan ddechrau mis Medi, felly rydyn ni'n eu hychwanegu nhw at y rhestr fwcio bryd hynny. Efallai y bydd nosweithiau wedi mynd erbyn hynny, ond yn anffodus ni allaf wneud dim am hyn.

Gofal plant wedi'i ariannu gan gyflogwr neu goleg

Os ydi'ch cyflogwr neu'ch coleg yn talu am eich gofal plant, cysylltwch â'r swyddfa cyn archebu.

Arian sy'n ddyledus o'r llynedd

Cliriwch eich balans School Gateway erbyn dydd Llun 31 Awst os gwelwch yn dda. Mae School Gateway yn cau ar ôl y dyddiad hwnnw.

Byddai ei glirio cyn diwedd y mis o gymorth mawr i mi.

Rhwng rŵan a 31 Awst, y swm arferol fyddwch chi'n ei dalu am y sesiynau rydych chi'n eu bwcio. Mae hen falansau'n symud draw i MyChildAtSchool ar ôl y dyddiad cau, felly gallai bwcio yn y dyfodol ddod i fwy na'r sesiynau'n unig.

Os oes gennych ddyled sylweddol, fydd Clwb y Gollen ddim yn ymddangos yn eich MyChildAtSchool. Mae rheolau'r clwb yn atal cario dyled enfawr. Bydd rhaid clirio'r ddyled i barhau i ddefnyddio'r clwb.

Os oes gennych chi gredyd ar School Gateway, rydyn ni'n ei symud draw i'ch cyfrif MyChildAtSchool. Does dim angen i chi wneud dim.

Os na allwch chi glirio'r hyn sy'n ddyledus erbyn 31 Awst, cysylltwch â'r ysgol ac fe wnawn ni drefnu rhywbeth.

Cwestiynau

Ffoniwch y swyddfa ar 01248 714478 neu e-bostiwch 6602152_pennaeth.llanfairpwll@anglesey.gov.uk.

Yn gywir,

Gwyn Pleming