Gair gan y Pennaeth
Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Daeth blwyddyn ysgol arall i ben, a dyma gyfle i edrych yn ôl arni cyn i ni fwynhau'r gwyliau haf.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn i'w chofio. Aeth y plant ar deithiau preswyl, mynd ar dripiau, cynrychioli'r ysgol mewn amryw o ffyrdd, a chawsom arolwg Estyn arbennig. Tynnodd Estyn sylw at waith amrywiol a diddorol y plant, ac at ba mor annibynnol a hyderus ydyn nhw. Cafodd yr addysgu a'r arferion dysgu arloesol yn yr ysgol eu canmol hefyd. Yn bwysicach na dim, gwelodd Estyn deulu — o'r disgyblion i'r llywodraethwyr, o'r staff i'r pentref cyfan. Diolch i'r staff am eu gwaith caled drwy gydol y flwyddyn, ac i chi, y rhieni a'r gwarcheidwaid, am eich cefnogaeth gyson. #LlanfairLleol
Mae Blwyddyn 6 yn gadael yr ysgol yr wythnos hon. Maen nhw'n cario blynyddoedd o atgofion gyda nhw. Bydd y rhan fwyaf yn mynd i Ysgol David Hughes, gydag ambell un yn mynd i Friars, Tryfan ac Ysgol Gyfun Llangefni. Ble bynnag fydd eu cam nesaf yn eu harwain, rydym yn dymuno'r gorau iddynt ac yn hyderus eu bod yn mynd â sylfaen gadarn o addysg Ysgol Llanfairpwll gyda nhw. Rydyn ni'n falch iawn o bopeth maen nhw wedi'i gyflawni, ac edrychwn ymlaen at ddilyn eu hanesion yn yr ysgol uwchradd a thu hwnt. Pob lwc iddyn nhw i gyd.
Mwynhewch y gwyliau haf gyda'ch teuluoedd. Bydd y tymor newydd yn cychwyn ar ddydd Mercher, 2il Medi 2026. Tan hynny, ymlaciwch a mwynhewch!
Welwn ni chi ym mis Medi.
Yr eiddoch yn gywir,
Gwyn Pleming
Chwaraeon
Fel arfer, mae'r hanner tymor wedi bod yn gyfnod prysur iawn ar y maes chwaraeon.
Er gwaethaf y tywydd anffafriol, aeth nifer o blant draw i Langefni i gymryd rhan yn Ras Traws Gwlad Ynys Môn. Roedd cannoedd o blant o bob rhan o'r sir wedi mynychu, ac roedd yn hyfryd gweld cymaint mor awyddus i gystadlu. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, ac yn arbennig i Otto, a ddaeth yn drydydd yn ei ras allan o dros 150 o redwyr — camp arbennig iawn!


Aeth criw o enethod draw i Aberystwyth i gynrychioli'r ysgol yng Nghystadleuaeth Bêl-droed Genedlaethol yr Urdd. Rydym yn falch iawn o'u perfformiad arbennig ar y diwrnod. Da iawn chi, genod!

Cawsom lwyddiant arbennig hefyd yng Ngala Nofio Ynys Môn yng Nghanolfan Hamdden Caergybi. Rhoddodd pawb eu gorau glas a chynrychiolodd yr ysgol yn wych. Llongyfarchiadau i chi gyd!



Mae'r Ŵyl Fowlio flynyddol yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i ni yma yn Llanfairpwll. Diolch o galon i'r clwb bowlio a'r holl wirfoddolwyr am drefnu twrnamaint mor werth chweil unwaith eto eleni. Llongyfarchiadau mawr i Mila am ennill y gystadleuaeth!

Gwnaeth tîm bechgyn yr ysgol yn arbennig o dda yng Nghystadleuaeth Tarian Albert Owen. Gweithiodd y bechgyn yn arbennig o dda fel tîm a chwarae pêl-droed o safon uchel drwy gydol y twrnamaint. Er iddynt golli ar giciau o'r smotyn yn y rownd gynderfynol, roedd yn berfformiad gwych ac yn brofiad gwerthfawr. Da iawn, hogia!

Mabolgampau
Bu'r Mabolgampau'n ddiwrnod llwyddiannus dros ben. Cystadlodd yr adran iau yn y bore a'r dosbarthiadau derbyn, 1 a 2 yn y prynhawn. Roedd yr haul yn tywynnu, ac rydym yn ddiolchgar i chi rieni am fenthyg y pebyll haul i ni! Roedd hi'n ddiwrnod da a phawb wedi mwynhau!
Roedd caffi'r Cyngor Ysgol yn gwerthu diodydd oer, paned, ffrwythau a donuts (iachus iawn, wrth gwrs!). Casglwyd £167 ar gyfer cyfrif y Cyngor Ysgol. Diolch i chi am gefnogi.
Llongyfarchiadau i Llys Tysilio, enillwyr yr adran iau, ac i Llys Menai, enillwyr yr adran babanod.







Hwyl yr Haf
Roedd yr haul yn tywynnu ar ein Diwrnod Hwyl yr Haf eleni, gyda thema Hawai yn llenwi'r ysgol â lliw. Bu'r plant yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau drwy'r dydd, gan gynnwys cestyll neidio, gemau, karate, gweithdy creadigol, hufen iâ a moctels blasus. Diolch i bawb a helpodd i wneud y diwrnod yn un mor llwyddiannus ac yn llawn atgofion hapus!
Tripiau!
Mae'r hanner tymor olaf bob amser yn un llawn profiadau a chyfleoedd i greu atgofion arbennig i'r plant!
Glan-llyn oedd taith breswyl Blwyddyn 4. Er mai prin iawn oedd y cwsg, roedd pawb wedi mwynhau yn arw! Bu'r plant yn cymryd rhan mewn llu o weithgareddau cyffrous, gan gynnwys chwaraeon dŵr ar y llyn, dringo, saethyddiaeth, cynnau tân a llawer mwy. Diolch i'r plant am yr hwyl!

Aeth Blwyddyn 5 draw i Langrannog, a chawsom dywydd bendigedig a phenwythnos gwych. Cafodd y plant gyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys y cwrs mwdlyd, dringo, y weiren sip, gwibgartio a threulio amser ar lan y môr. Roedd yn brofiad arbennig i bawb. Diolch i'r plant am eu cwmni difyr ac am wneud y daith mor bleserus.

Aeth dosbarthiadau Meithrin a Derbyn ar drip i Barc Fferm y Foel. Cawsant amser gwych yn cyfarfod pob math o anifeiliaid ac yn cael hwyl yn chwarae gyda'u ffrindiau.
Aeth Blwyddyn 1 a 2 ar drip i Goed y Sipsi. Cafodd y plant ddiwrnod llawn hwyl yn chwilio am y tylwyth teg, chwarae yn y parc a mwynhau amser gyda'u ffrindiau.



Parc Dŵr a Ninja TAG Rhyl oedd yn galw ar Flwyddyn 3 a 4 — a sôn am hwyl! Mwynhaodd pawb y sleidiau dŵr a'r gweithgareddau yn y pwll cyn profi eu sgiliau ar y rhwystrau amrywiol yn Ninja TAG!

Roedd Blwyddyn 5 a 6 hefyd wedi mwynhau ymweliad â Gelli Gyffwrdd — lle arbennig gyda chymaint i'w weld a'i wneud. Cafodd pawb amser bendigedig.

Cafodd un dosbarth o Flwyddyn 3 a 4 drip ychwanegol arbennig i Sw Môr ar ôl ennill cystadleuaeth gelf drwy greu morfarch o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu. Fel rhan o'u gwobr, buont yn cymryd rhan mewn gweithdy celf gyda'r artist amgylcheddol, Oli, cyn cael cyfle i weld yr holl greaduriaid sydd yn Sw Môr. Roedd yn brofiad arbennig ac yn gyfle gwych i ddysgu mwy am warchod ein hamgylchedd a'r bywyd gwyllt.

Hwyl fawr Blwyddyn 6!
Mae hi'n adeg chwerw-felys wrth ffarwelio â disgyblion hynaf yr ysgol. Mae wedi bod yn fraint eu gweld yn tyfu, datblygu ac aeddfedu dros y blynyddoedd i fod yn blant rydym i gyd yn falch iawn ohonynt. Bydd y plant bob amser yn rhan o deulu Ysgol Llanfairpwll, a byddwn wrth ein boddau yn clywed am eu llwyddiannau wrth iddynt gychwyn ar bennod newydd yn eu bywydau.
Llongyfarchiadau i Alys Pugh am dderbyn Tarian Gorau Glas, sy'n cael ei chyflwyno i ddisgybl sydd wedi bod yn gymwynasgar ac wedi gwneud ei gorau glas drwy gydol ei chyfnod yn yr ysgol. Llongyfarchiadau hefyd i Annabel Lloyd-Hughes am dderbyn Tarian y Cyfrannwr Campus. Cyflwynir y wobr hon i ddisgybl sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fywyd yr ysgol ac wedi manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gynigiwyd.
Dymunwn bob llwyddiant i chi gyd wrth i chi ddechrau ar eich taith newydd.



Cyngor Ysgol
Am flwyddyn gan y Cyngor Ysgol! Casglodd y criw £6,936.53 — aeth dros £5,000 i elusennau, 280kg o fwyd i'r banc bwyd, a 200 o focsys Nadolig dramor. Talodd y Cyngor hefyd am lyfrau Cymraeg i bob dosbarth, gweithdy darllen efo Anni Llyn a pharti Nadolig i bob plentyn. Diolch o galon i chi, blant, am eich holl waith dros yr ysgol a'r gymuned.
Ewch draw i wefan y Cyngor Ysgol i weld eu holl hanes: www.ysgolllanfairpwll.org/cyngorysgol

Cornel Lles
Mae'r gwyliau haf hir wedi cyrraedd. Does dim angen cynlluniau mawr — mae ambell beth syml yn aml yn ddigon.
🌳 Awyr iach Mae ugain munud tu allan yn codi calon ac yn helpu cwsg. Mynd am dro bach, mynd i'r parc, y traeth — beth bynnag sy'n siwtio chi.
🗺️ Diwrnodau allan am ddim Mae digon i'w wneud yn lleol heb wario llawer: y llyfrgell, mynd am dro ar hyd y Fenai neu picnic yn y parc.
Mwynhewch bob munud o'r haf.
Digwyddiadau Cymunedol













